Gwastraff Bwyd
map-pointer

Gwastraff Bwyd

Ry’n ni'n taflu gwerth tua £610 miliwn o fwyd i ffwrdd yng Nghymru bob blwyddyn – sy’n ddigon i lenwi Stadiwm y Principality!

map-pointer

Gwastraff Bwyd

Yn y DU, ry’n ni'n taflu 7 miliwn tunnell o fwyd i ffwrdd bob blwyddyn - a 5 miliwn tunnell o hynny'n fwyd y gallem fod wedi ei fwyta.

Gwastraff Bwyd

Mae'r stori'n dechrau wrth i chi roi’ch gwastraff bwyd y bin bwyd bach yn y gegin.

waste food
map-pointer

Ailgylchu yng Nghymru

Cymru yw'r gorau yn y DU a'r gorau ond dau yn y byd am ailgylchu ar hyn o bryd!

map-pointer

Beth gallwch ei roi yn eich bin gwastraff bwyd?

Cliciwch ymai weld beth y gallwch ei roi, a beth na ddylech ei roi yn eich bin bwyd bach.

map-pointer

Byddwch yn ofalus beth rydych chi'n ei daflu i ffwrdd.

Mae rhai mathau o wastraff bwyd yn anochel, fel esgyrn o gig a phlisg wyau. Ond dylem wneud ein gorau glas i beidio â gwastraffu bwyd na thaflu bwyd sy'n dal i fod yn iawn i'w fwyta.

Gwastraff Bwyd

Gall pob math o fwyd fynd i'r bin bwyd bach yn eich cegin: bagiau te, malurion coffi, crwyn llysiau a ffrwythau, plisg wyau...

Gwastraff Bwyd
map-pointer

Cost gwastraff bwyd

Mae'r DU yn gwastraffu gwerth £15 biliwn o fwyd y flwyddyn - 5 miliwn o dunelli - sef pwysau tua 830,000 o Eliffantod Affricanaidd!

map-pointer

Cost gwastraff bwyd

Mae'r aelwyd gyfartalog yn gwastraffu gwerth tua £70 o fwyd y mis.

Gwastraff Bwyd

...croen ac esgyrn o gig a bwyd y môr, braster ac olew coginio a bwyd anifeiliaid.

image
map-pointer

Bagiau gwastraff bwyd

Mae ein bagiau gwastraff bwyd wedi eu gwneud o ddeunyddiau bioddiraddadwy nid plastig, felly nid ydynt yn ychwanegu at y broblem gwastraff plastig. Cliciwch yma i ddysgu rhagor am sut mae plastig yn difrodi ein moroedd.

Casglu

Wedyn mae’ch bagiau gwastraff bwyd yn mynd i'ch bin bwyd mawr i'n lorïau gwastraff bwyd ddod i'w casglu.

Casgliad

Casgliad

Ar ôl ei gasglu, mae'r gwastraff bwyd yn cael ei gludo i'r gweithfeydd prosesu bwyd yng Nghaerdydd i gael ei ailgylchu.

Cyrraedd a Didoli

Cyrraedd a Didoli

Ar ôl cyrraedd y safle, mae'r gwastraff yn cael ei ddidoli ac mae unrhyw beth na ddylai fod yn eich bag gwastraff bwyd, fel pecynnau bwyd, yn cael ei dynnu allan.

Cymysgu
map-pointer

Compostio gartref

Yn ogystal â defnyddio eich biniau gwastraff bwyd i ailgylchu bwyd, beth am roi cynnig ar gompostio gwastraff eich gardd?

Cymysgu

Ar ôl ei ddidoli, mae'r gwastraff yn mynd i danc mawr ac yn cael ei gymysgu.

Cymysgu
map-pointer

Tirlenwi

Mae tua 40% o wastraff bwyd y DU yn mynd i dirlenwi, ac yng Nghymru, dim ond tua 8 mlynedd o le tirlenwi sydd ar ôl!

Cymysgu

Ar ôl cymysgu, mae dŵr yn cael ei ychwanegu at y tanc er mwyn troi'r cymysgedd yn hylif.

Treulio
map-pointer

Human digestion

The digestor mimics the human digestion process on a huge scale – it is like food going in to your stomach, being digested and then out through your intestine!

Treulio

Mae'r hylif yn mynd i danc mawr ac yn cael ei ddadelfennu ar dymheredd gwres y corff, sef tua 38°C, gan bethau bach byw o'r enw ensymau. Mae'r broses yma'n cymryd tua 28-32 diwrnod. Mae beth sy’n digwydd yn debyg i beth sy'n digwydd yn eich stumog!

Bionwy
map-pointer

Bionwy

Methan a nwyon naturiol eraill yw bionwy. Mae'r bionwy yma’n cael ei losgi mewn injan sy'n creu trydan a nwy. Mae ei ddefnyddio fel hyn yn atal y methan rhag cael ei ryddhau i'r atmosffer...

map-pointer

Methan o safleoedd tirlenwi

...mae hyn yn golygu nad yw'r methan yn dianc o'r gwastraff bwyd. Mae methan yn dianc i’r atmosffer wrth dirlenwi ac mae hynny’n cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd.

map-pointer

Defnyddio’r methan

Mae defnyddio'r methan i gynhyrchu ynni yn atal methan rhag cael ei ryddhau i'r atmosffer.

Bionwy

Mae'r broses yn creu dau fath o gynnyrch. Bionwy yw'r cyntaf.

Gwres
map-pointer

Lladd y bygs

Os nad yw'r bygs yn cael eu lladd, maen nhw'n parhau i ryddhau nwy methan, sy'n rhywbeth nad ydym ni am iddyn nhw ei wneud!

Gwres

Mae'r gwastraff hylifol sy'n weddill yn cael ei wresogi i dymheredd o 70°C am awr i ladd y bacteria a’r germau sydd ynddo. Nawr mae'r cynnyrch arall, sef y gweddillion treuliad anaerobig, yn addas at ei bwrpas.

Gweddillion treuliad anaerobig
map-pointer

Casglu gan ffermwyr

Mae ein gwrtaith ni'n cael ei ddefnyddio gan ffermydd lleol yng Nghaerdydd a'r Fro.

Gweddillion treuliad anaerobig

Mae'r gweddillion sy’n cael eu cynhyrchu trwy'r broses treulio anaerobig yn cael eu defnyddio gan ffermwyr at ddefnyddiau amaethyddol neu gan sefydliadau garddwriaeth fel canolfannau garddio.

Defnyddio ein cynnyrch
map-pointer

Gwrtaith Gradd Ansawdd

Mae defnyddio gwrtaith organig yn golygu defnyddio llai o wrtaith sy'n llawn tanwydd ffosil, ac mae hynny’n well i'r amgylchedd ac yn well i chi.

Defnyddio ein cynnyrch

Mae'r gwrtaith yma, sy'n cael ei wneud o'ch gwastraff bwyd, yn mynd i helpu i dyfu bwyd newydd i chi.

Defnyddio ein cynnyrch
map-pointer

Cynhyrchu Trydan

Mae'r trydan sy’n cael ei gynhyrchu i gyfrif am 20% o'r trydan sydd ei angen i bweru'r Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff - sef digon i bweru 2,000 o gartrefi.

map-pointer

Cadw eich dŵr yn lân

Mae'r Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff yn glanhau dŵr o dros filiwn o gartrefi ar draws de Cymru.

Defnyddio ein cynnyrch

Mae'r trydan a'r nwy sy'n cael ei gynhyrchu trwy'r broses yn cael ei ddefnyddio yn y gweithfeydd trin gwastraff bwyd, sy'n golygu bod y safle'n hunangynhaliol. Mae'r trydan sydd dros ben yn cael ei ddefnyddio yn y Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff cyfagos.

Defnyddio ein cynnyrch
map-pointer

Paneli Solar

Rydyn ni'n defnyddio golau'r haul i bweru paneli solar gan droi golau'r haul yn drydan.

map-pointer

Tyrbinau Gwynt

Rydyn ni'n defnyddio'r gwynt i bweru tyrbinau gwynt i gynhyrchu trydan.

map-pointer

Ynni Adnewyddadwy

Mae holl ffynonellau ynni adnewyddadwy Dŵr Cymru’n helpu i bweru ein safleoedd trin, gan helpu i gadw eich biliau dŵr mor isel â phosibl!

map-pointer

Pŵer hydro

Rydyn ni'n defnyddio llif dŵr o gronfeydd ac afonydd i bweru tyrbinau hydro sy'n cynhyrchu trydan.

map-pointer

Ailgylchu Gwastraff Bwyd

Os ydych chi'n byw yng Nghaerdydd neu'r Fro ac yn ailgylchu eich gwastraff bwyd gyda ni, rydych chi'n helpu i gyfrannu at blaned fwy gwyrdd.

Defnyddio ein cynnyrch

Mae Dŵr Cymru'n arwain y ffordd wrth gynhyrchu ynni adnewyddadwy, ac erbyn hyn rydyn ni'n cynhyrchu tua 25% o'r ynni a ddefnyddiwn trwy gynlluniau ynni hydro, solar a'r gwynt, a daw gweddill yr ynni a ddefnyddiwn o ffynonellau ynni gwynt adnewyddadwy. Rydyn ni'n bwriadu cynyddu hyn fel ein bod ni'n cynhyrchu 35% erbyn 2025. Ac rydyn ni'n gobeithio bod yn ynni-niwtral erbyn 2050, sy'n golygu ein bod ni'n defnyddio llai o ynni neu'r un faint ag yr ydym yn ei gynhyrchu. Mae hyn yn ein helpu ni i gyfrannu at greu planed fwy gwyrdd a hapus nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.